Croeso

The logo of the VAWDASV Research Network

Croeso i Rwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru, sef cymuned ymchwil gynhwysol sy’n darparu fforwm diogel, agored i ddod â’r unigolion hynny sy’n gweithio tuag at rhoi terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ynghyd i ymchwilio, cydweithio, a gweithio tuag at ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Rydym yn cydnabod y gall unrhyw un ddioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, waeth beth fo’i hil, dosbarth, rhyw, oedran na’i rhywedd, neu unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill, a gobeithio drwy gydweithio y gallwn wneud Cymru yn lle mwy diogel i bawb. Ar hyn o bryd, mae gan y rhwydwaith aelodau sy’n cynrychioli sefydliadau ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth, awdurdod lleol, addysg, y trydydd sector, plismona a chyfiawnder a’r byd academaidd yng Nghymru. Fel y nododdd Jane Hutt AS yn ein digwyddiad lansio “gall pob un ohonom gydweithio tuag at wireddu ein huchelgais y gall pawb fyw heb ofn”.

Cysylltwch os hoffech chi gydweithio â ni.

Ymunwch â Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru