
Byw Heb Ofn yw’r llinell gymorth 24/7 a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gallant eich hatgyfeirio at wasanaethau penodol eraill os bydd eu hangen arnoch. Mae’r gwasanaethau eraill sydd ar gael, nad ydynt o bosib yn gweithredu 24/7, yn cynnwys:
- BAWSO – www.bawso.org.uk
- Mae Bawso yn ymrwymedig i ddarparu cyngor, gwasanaethau a chymorth i gymunedau lleiafrifoedd ethnig du ac unigolion yng Nghymru y mae cam-drin, trais, a chamfanteisio yn effeithio arnynt. Mae’r tîm ymroddedig wedi bod yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i ddioddefwyr trais yn y carterf, trais rhywiol, masnachu mewn pobl, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod yng Nghymru ers dros 25 mlynedd.
- Childline – www.childline.org.uk
- Mae Childline yn gwasanaethu plant a phobl ifanc, ar-lein a dros y ffôn, unrhyw bryd. Gallwch siarad â rhywun dros y ffôn, ar-lein neu anfon e-bost.
- Crimestoppers – https://crimestoppers-uk.org/
- Mae CrimeStoppers yn wasanaeth rhoi gwybod am droseddau yn ddienw. Os oes gennych wybodaeth am drosedd, gallwch gysylltu â Crimestoppers dros y ffôn neu ar-lein.
- Fearless, Crimestoppers – https://www.fearless.org/
- Fearless yw gwasanaeth ieuenctid Crimestoppers. Gall plant a phobl ifanc roi gwybod am droseddau yn ddienw, ar-lein neu dros y ffôn drwy’r gwasanaeth hwn.Mae Fearless hefyd yn darparu adnoddau addysgol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac mae gweithwyr allgymorth ar gael i roi gweithdai.
- Galop – www.galop.org.uk
- Mae gan y tîm yn Galop ddegawdau o brofiad yn cefnogi pobl LGBT+ sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig, trais rhywiol, troseddau casineb, therapïau trosi honedig, trais ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, a ffurfiau eraill ar drais.
- Byw Heb Ofn – www.llyw.cymru/byw-heb-ofn
- Os ydych wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu os ydych yn poeni am ffrind neu berthynas sy’n profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth, gallwch ffonio’r llinell gymorth i gael help a chyngor cyfrinachol.
- Meic – www.meiccymru.org
- Mae Meic yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc, yn ogystal â llinell gymorth eirioli. Gallwch siarad â rhywun dros y ffôn, neges destun neu ar-lein.
- NSPCC Helpline – www.nspcc.org.uk
- Mae llinell gymorth yr NSPCC ar gael i oedolion sy’n poeni am blentyn neu berson ifanc. Bydd gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael eu hyfforddi yn trafod eich pryderon, yn rhoi cyngor arbenigol ac yn cymryd camau priodol i amddiffyn y plentyn.
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru https://olderpeople.wales/support-directory/
- Caiff manylion sefydliadau lleol a chenedlaethol y gallwch gysylltu â nhw am gymorth os yw trais wedi effeithio arnoch, eu rhannu ar wefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
- Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol – https://swgfl.org.uk/services/professionals-online-safety-helpline/
- Mae’r Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol (POSH) yn helpu pob aelod o’r gymuned sy’n gweithio gyda phlant neu ar ran plant yn y DU gydag unrhyw faterion diogelwch ar-lein y gallan nhw, neu’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal, fod yn eu hwynebu.
- Llinell Gymorth Pornograffi Dial- https://revengepornhelpline.org.uk/
- Mae’r llinell gymorth pornograffi dial yn helpu oedolion (18+ oed) sy’n profi camddefnyddio lluniau o natur bersonol, a elwir hefyd yn pornograffi dial neu ‘revenge porn’.
- Report Harmful Content – https://reportharmfulcontent.com/
- Gall Report Harmful Content eich helpu i roi gwybod am ddeunydd niweidiol ar-lein drwy ddarparu gwybodaeth gyfredol am safonau cymunedol a chysylltiadau uniongyrchol i’r cyfleusterau rhoi gwybod am droseddau cywir ar draws nifer o lwyfannau.
- Stop It Now! Helpline – www.stopitnow.org.uk
- Mae llinell gymorth gyfrinachol Stop It Now!, a redir gan Sefydliad Lucy Faithfull, ar gael i unrhyw un sy’n poeni am gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys unigolion sy’n meddwl am blant mewn ffordd rywiol niweidiol.
- Young Minds – Parents Helpline – http://www.youngminds.org.uk/parent
- Mae Llinell Gymorth Young Minds i Rieni ar gael i gynnig cyngor cyfrinachol i rieni a gofalwyr sy’n poeni am blentyn neu berson ifanc dan 25 oed.