Nod:
Cymuned ymchwil gynhwysol i Gymru sy’n rhoi fforwm diogel, agored i’r rheiny sy’n gweithio tuag at rhoi terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i osod yr agenda ymchwil ar gyfer y dyfodol, meithrin cydweithio a datblygu ceisiadau grant, cwblhau gwaith ymchwil o’r safon uchaf a gweithio tuag at ddileu trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Amcanion:
- Pennu/deall y blaenoriaethau o ran ymchwil ac ymarfer i Gymru.
- Nodi bylchau mewn ymchwil VAWDASV.
- Rhannu gwybodaeth ac arbenigedd (yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth).
- ‘Profi’ syniadau ymchwil a mesur diddordeb mewn cydweithio.
- Nodi galwadau am grantiau cyngor a grantiau masnachol ymchwil ac ymateb iddynt.
- Cyd-greu ceisiadau grant ymchwil.
- Datblygu gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol ledled y DU ac yn rhyngwladol.
- Adrodd yn flynyddol ar gynnydd yn erbyn amcanion.
Egwyddorion Arweiniol:
Rydym yn cydnabod weithiau y gallai gwaith y rhwydwaith sbarduno ymatebion anodd, i aelodau’r rhwydwaith a chyfranogwyr ymchwil, neu gall ennyn datgeliadau. Mae’n bwysig ein bod yn glir ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud yn ddiogel ac nad ydym yn cynnig cyngor nac ymyriadau therapiwtig nad ydym yn gymwys i’w rhoi. Os oes angen cymorth ar rywun neu y maent yn datgelu, byddwn yn eu cyfeirio at linell gymorth Byw Heb Ofn a fydd yn gallu eu cyfeirio at wasanaethau priodol. Wrth ymgysylltu â goroeswyr, rydym yn dilyn y cyngor a roddir ym Mhecyn Cymorth Ymgysylltu â Goroeswyr Cymorth i Ferched Cymru a’r Fframwaith Uniondeb Ymchwil. Wrth drefnu digwyddiadau cyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod person diogelu penodol, yn ddelfrydol o wasanaeth arbenigol, mynediad i fan tawel, a llinell ffôn.
- Alinio gweithgareddau gyda thirlun polisi Cymru e.e. y Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 nodedig, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
- Ystyried gwaith a gweithgareddau’r rhwydwaith ymchwil yng nghyd-destun deddfwriaeth y DU e.e. Deddf Trais Domestig 2021, a deddfwriaeth berthnasol arall yn y DU, a chanllawiau rhyngwladol e.e. Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
- sicrhau bod y rhwydwaith ymchwil yn hygyrch a chynhwysol.
- I sicrhau bod goroeswyr wrth galon y gwaith o’r camau cynllunio hyd at y camau gwerthuso.
- Cydymffurfio â’r Fframwaith Uniondeb Ymchwil (RIF) ar Drais a Cham-drin Domestig (2020). Mae’r RIF yn nodi arfer da o ran ymchwil moesol mewn perthynas â Thrais a Cham-drin Domestig gan fynd i’r afael ag egwyddorion yn seiliedig ar bump elfen: Diogelwch a llesiant; Tryloywder/atebolrwydd; Cydraddoldeb, hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol; Ymgysylltu; Moeseg Ymchwil.
- Cydymffurfio â’r canllawiau a amlinellir yn y ddogfen Welsh Woman’s Aid’s Survivor Engagement Toolkit.
Cylch Gorchwyl
Rôl a swyddogaeth:
Mae rhwydwaith ymchwil VAWDASV Cymru yn gyfle unigryw i ddod â chyfoeth o brofiad, arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau ynghyd i ddatblygu a chyflwyno gwaith ymchwil o’r ansawdd uchaf. Bydd gan aelodau rhwydwaith ddiddordebau ac arbenigeddau penodol o fewn y maes VAWDASV. Mae cynhwysiant a pharch yn ganolog i rhwydwaith ymchwil VAWDASV.
Rheoleidd-dra cyfarfodydd:
- Cynhelir cyfarfodydd rhwydwaith gyfan bob chwarter, gyda gweithgorau llai yn cwrdd yn ôl yr angen ar brosiectau penodol.
