Pwy ydym ni:
Rydym yn grŵp o ymchwilwyr ôl-raddedig o’r rhwydwaith sy’n astudio ar draws rhaglenni MSc, MA, MRes, PgCert a PhD ac yn gweithio ym meysydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol. Rydym yn defnyddio methodolegau amrywiol, ac mae pob un ohonom ar wahanol gamau o’n teithiau ôl-raddedig.
Pwrpas:
Mae’r grŵp yn darparu lle pwrpasol a chefnogol ar gyfer myfyrio, dysgu a chysylltiad â chyfoedion ynghylch agweddau ar y daith ymchwil. Arweinir y grŵp gan aelodau ac ar gyfer aelodau. Fel arfer, mae sesiynau’n cynnwys y cyfle i aelod gyflwyno thema ddewisol, gan ddod â syniadau cyfredol neu arfer gorau ynghyd ac archwilio sut mae’r rhain yn berthnasol i’n prosiectau ein hunain. Mae’r grŵp i wneud â chysylltiad: rhannu prosiectau, darlleniadau ac adnoddau; rhannu syniadau a chefnogi ein gilydd trwy realiti astudiaethau ôl-raddedig
Sut mae’n gweithio:
- Cyfarfodydd ar-lein
- Pob chwarter – dewch pan allwch chi
- Cyflwyniadau gan aelodau a gwesteion
- Diweddariadu a thrafodaethau ymchwil personol
Cymerwch ran:
Rydym yn awyddus i groesawu ymchwilwyr ôl-raddedig newydd i ymuno a chyfrannu ar ddatblygiad parhaus y grŵp. Os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch ar gyfer Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru ac anfonwch neges yn gofyn i ymuno â’r Is-grŵp PGR. Rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod!
