Mae grŵp bach o aelodau o’r rhwydwaith wedi sefydlu is-grŵp gyda ffocws ar hunaniaethau, profiadau a materion LHDTC+ gyda’r nod o sicrhau cynrychiolaeth o fewn y rhwydwaith a chydweithio ar brosiectau yn y dyfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr is-grŵp LHDTC+ neu ymuno ag ef, anfonwch e-bost at Dr Sophia Kier-Byfield: sophia.kier-byfield@southwales.ac.uk
Nod cyffredinol:
Sicrhau cynrychiolaeth barhaus ar gyfer hunaniaethau, profiadau a materion LHDTC+ o fewn Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru a chreu lle sy’n canolbwyntio ar gysylltu, myfyrio a chydweithio.
Amcanion:
- Annog cynhwysiant a chydbwysedd gweithredol o fewn gweithgareddau presennol y Rhwydwaith, e.e. rhaglenni ac iaith siaradwyr, darparu atebolrwydd
- Darparu lle i aelodau’r Rhwydwaith fynd gydag unrhyw gwestiynau am bynciau LHDTC+ neu am wybodaeth am wasanaethau neu fentrau arbenigol yng Nghymru
- Cynnal cyfarfodydd misol yn ogystal â chyfarfodydd ehangach y Rhwydwaith
- Gweithio tuag at gydweithio ar brosiectau a chynigion ariannu, e.e. syniadau cwmpasu, nodi bylchau mewn ymarfer/gwybodaeth, ceisio cyllid.
